Cymraeg
Croeso i wefan Diogelwch y Swyddfa Gartref
Mae’r wefan Diogelwch yn darparu gwybodaeth, newyddion a chanllawiau i’n rhanddeiliaid a’n partneriaid ar amrywiaeth eang o faterion gwrthderfysgaeth y mae Cyfarwyddiaeth Gwrthderfysgaeth a Chudd-wybodaeth y Swyddfa Gartref yn eu cyflwyno.
Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth i siaradwyr Cymraeg yn yr iaith o’u dewis. Mae’r wefan hon yn rhan o’r broses honno.
Nid yw’r adran Gymraeg yn cyfateb yn uniongyrchol i’r wefan Saesneg gan ei bod wedi’i chynllunio’n bwrpasol fel ei bod yn cynnwys gwybodaeth sy’n benodol i Gymru a phobl Cymru’n gyffredinol. Fel yn achos pob gwefan, mae’r adran hon yn cael ei datblygu a’i diweddaru’n barhaus, a bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hychwanegu, fel y bydd yn dod ar gael.